Iddew yn dal baner 'Boicotiwch Israel'Logo'r ymgyrch gyffredinol i foicotio cwmnïau a chynnyrch o Israel
Mae'r Mudiad Boicotio, Dadfuddsoddi a Sancsiynau (neu BDS) yn fudiad byd-eang[1] sy'n ceisio cynyddu'r pwysau economaidd a gwleidyddol ar Israel i gydymffurfio gyda nodau ac amcanion y mudiad. Maen nhw'n galw ar Israel:
Cychwynwyd yr ymgyrch ar 9 Gorffennaf 2005 gan 171 o Balesteiniaid a alwaodd am sancsiynau rhyngwladol yn erbyn Israel. Galwodd y grwp ar Israel i gydymffurfio gyda phenderfyniadau'r Cenhedloedd Unedig. Mae eu hymgyrch yn adleisio ymgyrchoedd gwrth-Apartheid y 60au a'r 70au yn Ne Affrica.[2] Galwodd y BDS am foicotio mewn gwahanol ac amrywiol ffyrdd - hyd nes fod Israel yn cydymffurfio gyda deddwriaeth rhyngwladol.[3]